Sgrin llawn
Panoramic Images
Preloader

Gwybodaeth am y Prosiect

For the English version of this website please click here. Mae Vattenfall yn ymchwilio i brosiect ynni adnewyddadwy ym Mynydd Lluest y Graig yng nghanolbarth Cymru, a disgwylir i’r cynlluniau gynnwys fferm wynt, ac opsiynau ar gyfer technolegau adnewyddadwy eraill fel solar a storio. Megis dechrau y mae’r cynlluniau a chynhelir ymgynghoriad yn hydref 2022, gyda chyfle i bobl leol gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu’r prosiect. Mae Vattenfall yn awyddus i ddatblygu prosiect sydd o fudd i ffermwyr lleol, y gymuned a busnesau rhanbarthol, yn ogystal â helpu i gyflawni uchelgeisiau sero net Cymru. Yn y cyfamser, cofrestrwch eich diddordeb yn y prosiect yma.

Cymorth

Bwriad y wybodaeth isod yw helpu i lywio'r Porth 3D, ond mae Canllaw Defnyddiwr y Porth Rhyngweithiol ar gael, y gallwch ei weld drwy glicio yma

Y Map


Er mwyn gweld y delweddau a llywio’r porth, dechreuwch trwy glicio ar unrhyw un o’r camerâu ar y map cyfagos. Fe’u lleolir wrth ymyl eu safleoedd perthnasol er mwyn caniatáu mynediad at feysydd o ddiddordeb.

Os yw’n well gennych weld y map fel delwedd lloeren, gellir gwneud hyn drwy glicio ar y tab ‘Lloeren’ ar gornel dde uchaf y map.

Ar ôl clicio ar safle, os ydych chi eisiau dychwelyd i’r map llawn unrhyw bryd, cliciwch ar eicon map y prosiect sydd i lawr ochr chwith y map – eicon pin lleoliad ar ben grid.

Os ydych yn gwylio fideo ac eisiau dychwelyd i’r map trosolwg, mae eicon map y prosiect ar gornel dde uchaf y sgrin.

Delweddau


Ar ôl clicio ar ddelwedd, bydd tri tab ar draws canol top y sgrin; 'Nawr' a 'Presennol'

Os byddwch yn clicio ar y tab ‘nawr’, bydd yn dangos yr ardal i chi fel y mae ar hyn o bryd, heb unrhyw un o gynlluniau arfaethedig y fferm wynt.

Os byddwch yn clicio ar y tab ‘presennol’, bydd yn dangos y cynllun arfaethedig diweddaraf a ddangosir ar y mapiau a'r arddangosfeydd rhithwir.