Rydym ni wedi cynllunio’r wefan hon i edrych fel neuadd bentref a gobeithiwn
y bydd y deunyddiau’n llawn gwybodaeth ac o ddiddordeb i chi. Wrth i chi
grwydro o amgylch neuadd y pentref, cliciwch ar y gwahanol ddeunyddiau
ddarllen am wahanol agweddau ar y prosiect.
Yma, ceir:
• Paneli gwybodaeth
• Datganiad o ymgynghori cymunedol
• Delweddau o’r awyr
• Mapiau
• Montages o ffotograffau
• Fideos
• Ffurflen adborth
• Datganiad i’r wasg
Cynhelir yr ail gylch ymgynghori hwn rhwng 26 Hydref a 16 Tachwedd 2020, ac rydym ni’n eich gwahodd i anfon eich adborth atom ni erbyn y dyddiad cau hwn. Byddwn ni hefyd yn cynnal ymgynghoriad pellach y flwyddyn nesaf, yn ystod yr ymgynghoriad cyn ymgeisio ffurfiol a statudol sy’n para am 6 wythnos.
Diolch am eich diddordeb yn y prosiect.
Cliciwch ar y x yn y gornel dde uchaf neu cliciwch unrhyw le y tu allan i’r blwch hwn i fynd i mewn i’r arddangosfa ar-lein.